The Reith Lectures cover image

The Reith Lectures

2. Rhyddid i Addoli

Dec 7, 2022
28:42

Rowan Williams cyn Archesgob Cymru a Chaergaint yn traddodi ei ddarlith Reith i'r BBC yn y Gymraeg gan drafod ffydd a rhyddid. Yn ôl yr Arglwydd Acton, yr awdur ar ryddid o'r 19 ganrif a ddyfynnir yn y ddarlith, rhyddid crefyddol yw sail pob rhyddid gwleidyddol. Mae Rowan Williams yn cymhwyso hyn yng nghyd destun De Affrica, y gwrthdaro yn y ddadl gyfoes am erthylu ac amryw bynciau eraill. Dadleuir fod rhyddid i addoli yn gorfod cynnwys y rhyddid i fynegi argyhoeddiadau yn ogystal a'r rhyddid i gyd-gyfarfod.

Recordiwyd y fersiwn Saesneg o'r ddarlith a sesiwn cwestiwn ac ateb o flaen cynulleidfa ym Mhrifysgol Abertawe gydag Anita Anand yn cyflwyno. Cyflwynir y ddarlith yn y Gymraeg gan John Roberts.

Araith yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt yn 1941 ar y pedwar rhyddid yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer darlithoedd Reith 2022 gan holi pa mor hanfodol yw'r pedwar rhyddid heddiw. Traddodir pedair darlithydd yn Saesneg. Darlith Rowan Williams yn unig sydd wedi ei recordio yn y Gymraeg. Trafodir: Rhyddid i lefaru gan Chimamanda Ngozi Adichie, Rhyddid i addoli gan Rowan Williams, Rhyddid rhag angen gan Darren McGarvey, Rhyddid rhag ofn gan Fiona Hill.

Cynhyrchydd y gyfres: Jim Frank Cynhyrchydd y fersiwn Gymraeg: John Roberts (Cwmni Tonnau Cyf.) Peirianwyr sain: Rod Farquhar, Neil Churchill a Gareth Turrell Cydlynydd cynhyrchu: Brenda Brown Golygydd: Hugh Levinson

Get the Snipd
podcast app

Unlock the knowledge in podcasts with the podcast player of the future.
App store bannerPlay store banner

AI-powered
podcast player

Listen to all your favourite podcasts with AI-powered features

Discover
highlights

Listen to the best highlights from the podcasts you love and dive into the full episode

Save any
moment

Hear something you like? Tap your headphones to save it with AI-generated key takeaways

Share
& Export

Send highlights to Twitter, WhatsApp or export them to Notion, Readwise & more

AI-powered
podcast player

Listen to all your favourite podcasts with AI-powered features

Discover
highlights

Listen to the best highlights from the podcasts you love and dive into the full episode